Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010

Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010[1]
               
2005 ←
6 Mai 2010 (2010-05-06)
→ 2015

650 sedd
326 sedd i gael mwyafrif
Nifer a bleidleisiodd 65.1%
  Plaid 1af Ail blaid 3ydd plaid
  David Cameron Gordon Brown Nick Clegg
Arweinydd David Cameron Gordon Brown Nick Clegg
Plaid Ceidwadwyr Llafur Democratiaid Rhyddfrydol
Arweinydd ers 6 Rhagfyr 2005 24 Mehefin 2007 18 Rhagfyr 2007
Sedd yr Arweinydd Witney Kirkcaldy and Cowdenbeath Sheffield Hallam
Seddi tro yma 198, 32.4% 355, 35.2% 62, 22.0%
Seddi cynt 210 349 62
Seddi a gipiwyd 307 258 57
Newid yn y seddi increase 97* Decrease 91* Decrease 5*
Cyfans. pleidl. 10,703,654 8,606,517 6,836,248
Canran 36.1% 29.0% 23.0%
Tuedd increase 3.7% Decrease 6.2% increase 1.0%

Map o ganlyniad yr etholiad.

^ Nid yw'r niferoedd yn cynnwys y Llefarydd.
* Newid yn y ffiniau


Prif Weinidog cyn yr etholiad

Gordon Brown
Llafur

Y Prif Weinidog a etholwyd

David Cameron
Ceidwadwyr

Cafodd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010 ei gynnal ar 6 Mai, 2010 er mwyn ethol Aelodau Seneddol. Cystadlodd pleidiau gwleidyddol am 650 sedd yn Nhŷ'r Cyffredin y Deyrnas Unedig sef îs-dŷ Senedd y Deyrnas Unedig, oherwydd ni chaiff aelodau Tŷ'r Arglwyddi eu hethol. O'i gymharu â'r etholiad cyffredinol blaenorol cafwyd pedair sedd ychwanegol. Cyhoeddwyd yr etholiad gan Gordon Brown, Prif Weinidog y DU, ar 6 Ebrill 2010 a datgorffwyd y senedd ar 12 Ebrill er mwyn dechrau ar yr ymgyrchoedd etholiadol. Digwyddodd y pleidleisio rhwng 7.00 yb a 10.00 yh. Cynhaliwyd rhai etholiadau lleol mewn rhai ardaloedd ar yr un diwrnod.

Etholiad 2001
Etholiad 2005
Etholiad 2015

Nod y Blaid Lafur oedd dychwelyd i'w pedwerydd tymor mewn pŵer ac adfer y cefnogaeth a gollwyd ers 1997.[2] Anelodd y Blaid Geidwadol at adfer eu safle dominyddol yng ngwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig ar ôl iddynt golli nifer o seddau yn ystod y 1990au, ac i gipio safle'r Blaid Lafur fel y blaid lywodraethol. Gobeithiodd y Democratiaid Rhyddfrydol i ennill mwy o seddau wrth y Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr; yn ddelfrydol, buasent hwythau eisiau ffurfio llywodraeth eu hunain, er nod mwy realistig fyddai i fedru ffurfio llywodraeth clymbleidiol.

  1. "General elections". Electoral Commission. 18 Mai 2012. Cyrchwyd 24 Awst 2013.
  2.  Brown would 'renew' Labour Party (5 Ionawr 2007).

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search